#1 — Cysylltu yn gyntaf
Wythnos diwethaf, fe wnes i ymrwymo i rannu un darn o gyngor neu wers rydw i wedi dysgu am hwyluso bob wythnos am 10 wythnos. Er fy mod…
#1 — Cysylltu yn gyntaf

Wythnos diwethaf, fe wnes i ymrwymo i rannu un darn o gyngor neu wers rydw i wedi dysgu am hwyluso bob wythnos am 10 wythnos. Er fy mod i’n siwr bod yna ffordd o strwythuro’r rhain mewn rhyw fath o drefn rhesymegol dwi wedi penderfynnu yn erbyn hynny. Rwy’n mynd i ysgrifennu yr hyn rwy’n teimlo cymhelliant i ysgrifennu a newn nhw dod allan yn y drefn yna. Bant a ni.
Tua blwyddyn yn ôl fe wnes i ddarllen dyfyniad gan Amy Cuddy: “Cysylltwch yn gyntaf, darbwyllwch yn hwyrach”. Fel sy’n digwydd yn aml, fe wnaeth y dyfyniad yma fy helpu yn syth i wneud synnwyr o’m profiadau fy hun fel hwylusudd.
Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau rwy’n gweithio gyda bron byth yn cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithdai wedi’u hwyluso. Dyna’r eithriad ac nid y rheol. Mae’r sesiynau rwy’n cynnal yn gofyn am lefel o onestrwydd a thryloywder nad yw’r mwyafrif o bobl yn gyfarwydd â. Maent yn gofyn i bobl gydweithredu mewn ffyrdd sy’n mynd yn erbyn normau diwylliannol. Er mwyn i’m sesiynau fod yn effeithiol, mae’n rhaid i bobl fod yn onest, buddsoddi eu hunain yn y broses ac mewn rhai achosion i ddewis materion y byddai’n well gan y mwyafrif i adael llonydd iddynt.
Er mwyn i bobl fod yn barod i ‘mynd yna’, mae’n rhaid i mi gysylltu â nhw yn gyntaf. Felly rwy’n edrych am gyfleoedd i gwrdd yn anffurfiol â chyfranogwyr o flaen llaw. Os yw’n wyneb i wyneb rwy’n hoffi mynd i’w swyddfa a cyflwyno fy hun dros goffi. Os yw ar-lein byddaf yn trefnu cwrdd ychydig ddyddiau cyn gyda gwahoddiad agored i bobl i alw heibio a dweud helo. Byddaf yn arddangos neu’n mewngofnodi yn gynnar a rhoi gwybod i bobl o flaen llaw y byddwn i wrth fy modd yn cwrdd â nhw cyn i ni fynd i mewn i’r gwaith ac ar ddechrau’r sesiynau rwy’n gwneud yn siwr fy mod i’n rhannu ychydig amdanaf i fel person. Rwyf am ddangos iddynt fy mod i’n fodlon rhannu ac i ddangos na fyddwn yn gofyn iddynt wneud hynny pe na bawn i ddim yn fodlon gwneud fy hunan. Yn y pen draw, rydw i eisiau iddynt wybod fy mod i yn poeni am y gwaith, rwy’n poeni amdanyn nhw ac nid wyf yno jyst i helpu â agenda fy hun.
Ar adegau pan rydw i wedi masnachu ar enw da yn hytrach na empathi, rydw i wedi methu â chyrraedd fy nisgwyliadau. Felly gyda amser, rwyf wedi dysgu i gysylltu yn gyntaf bob tro.
메타데이터
- post_id
- 7cefaeba0dd7
- slug
- 1-cysylltu-yn-gyntaf-7cefaeba0dd7
- url
- https://medium.com/basischangingthechange/1-cysylltu-yn-gyntaf-7cefaeba0dd7
- canonical_url
- https://medium.com/basischangingthechange/1-cysylltu-yn-gyntaf-7cefaeba0dd7
- author_url
- https://medium.com/@dyn-drwg
- status
- ok
- fetched_at
- 2026-07-28 10:24:52