← Back to list

Sut mae cymorth ymreolaethol yn edrych?

Rhaid helpu pobl i weithio mas y peth gorau i wneud, yn lle’u gorfodi i gydymffurfio, neu eu bygwth.

Dyfrig Williams in Gwneud pethau gwell · 2020-01-30 13:54 · 0 claps · 2.3 min read
#cymraeg #cefnogaeth #rheoli #meddwl-systemau #arweinyddiaeth
Open on Medium ↗

Sut mae cymorth ymreolaethol yn edrych?

Rhannodd Kelly Doonan blogbost gwych ar Gymorth Ymreolaethol ar flog Squire to the Giants gyda mi. Rwy’n hoffi’r cysyniad — mae’n gallu ymddangos fel cysyniad sydd wedi’i wneud o ddau beth gwrthgyferbyniol, ond mae gwaith Edward Deci yn dangos y gallant fod yn rhan o un cyfanwaith:

“Mae ymreolaeth yn tanio twf ac iechyd, oherwydd ei fod yn caniatáu i bobl brofi pethau fel nhw eu hunain, fel cychwynwyr eu gweithredoedd. Mae’r person sy’n teimlo fel ei bod nhw’n cyfarwyddo bywyd ei hun yn teimlo’n gwell ei fyd na pherson sydd ddim…. Mae’n bwysig i weld os yw pobl yn byw’n annibynnol ac os ydyn nhw’n teimlo, yn ddwfn yn eu hunain, mai eu gweithredoedd eu hunain yw eu gweithredoedd nhw.”

Mae Steve Schefer (awdur y blogbost) yn esbonio mai’r gwrthwyneb i ymreolaeth yw rheolaeth. Mae hyn yn apelio ataf. Os na allwn reoli popeth mewn amgylchedd cymhleth (ac rydym yn ceisio gwneud hyn o fewn gwasanaethau cyhoeddus), ydy hyn yn meddwl mai’r gwrthwyneb i ddull rheoli “o’r brig i lawr” yw ymreolaeth?

Ac os bod cymhwysedd yn allweddol (gan ein bod ni’n hoffi meistroli heriau), a ydy hyn yn meddwl bod rhaid i ni roi’r gorau i’r prosesau cyfredol ar gyfer gwneud penderfyniadau, ble does gan dim dewis gan pobl amdano’r modd y maen nhw’n gweithio?

Mae perthnasedd yn bwysig hefyd. Os mae ein dull presennol yn seiliedig ar benderfyniadau pobl sydd â throsolwg o’r gwaith ond sy’n bell o ddarpariaeth, yna mae ein cysylltiad ni â phobl yn wan.

Mae hyn i gyd yn ffitio gyda gwaith Dan Pink ar gymhelliad, sy’n cael ei grynhoi’n arbennig yn yr animeiddiad arbennig yma gan yr RSA.

[embed]

Perthnasau cymar i gymar

Yn ôl Deci, y gellir datblygu ymreolaeth trwy ei gysyniad “Rheoli Un i Fyny” (“One Up Management”). Mae’n adleisio’r model Cyflyrau Ego, sy’n symud perthynas hierarchaidd i berthynas oedolyn i oedolyn. Mae’n helpu pobl i weithio mas y peth gorau i wneud, yn hytrach na’u gorfodi i gydymffurfio, neu eu bygwth. Dyw’r naill neu’r llall ddim yn ddefnyddiol os ydym am gael y gorau o bobl.

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn ceisio cyrraedd pwynt ble mae pobl wrth wraidd ein gwaith. Does yna byth diweddbwynt i’n dysgu a’n gweithredu gan ein bod ni’n gweithio mewn systemau addasol cymhleth. Ond y cam cyntaf yw cyrraedd y pwynt ble mae caredigrwydd wrth wraidd ein gwaith.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweithio mewn system fiwrocrataidd sy’n ceisio lliniaru methiant ac sy’n seiliedig ar ofn. Byddai system well yn adeiladu ar obaith.

[embed]

Byddai’n helpu pobl i fyw’r bywydau y maen nhw eisiau byw. Mae maniffesto diweddar Collaborate CIC yn lle da i ddechrau — mae’n cynnig dadansoddiad da o ble’r ydym, ac mae’n cynnig syniadau da ar gyfer y dyfodol.

“Rydym yn tanseilio ein cyfrifoldebau i’n gilydd o fewn ein cymunedau, a’n cydberchnogaeth o’r heriau sy’n ein hwynebu, gan gynnwys materion cymhleth fel arwahanrwydd cymdeithasol a throseddau cyllyll, a heriau bob dydd fel glendid ein strydoedd. Mae ein system addysg yn gosod ysgolion a phrifysgolion mewn marchnad sy’n cael ei gyrru gan berfformiad ac sy’n dysgu plant i basio arholiadau, ond nid i gydweithio i ddatrys problemau. Mae hyd yn oed ein system wleidyddol yn ymgorffori model ‘enillwyr a chollwyr’ sydd wrth wraidd ein disgwrs cyhoeddus…. Mae angen meddylfryd cydweithredol arnom. Un sy’n seiliedig ar stori ‘ni’.”

Mae’r ffaith bod gwasanaethau cyhoeddus yn lleihau cymhelliant a lles pobl yn gwneud i mi deimlo’n anesmwyth. Mae gormod ohonom yn gweithio yn erbyn y system. Rhaid i’n gwaith ddeillio o’n bwrpas, un sydd wedi’i seilio ar garedigrwydd.


메타데이터
post_id
bc6c5657c79f
slug
sut-mae-cymorth-ymreolaethol-yn-edrych-bc6c5657c79f
url
https://medium.com/gwneud-pethau-gwell/sut-mae-cymorth-ymreolaethol-yn-edrych-bc6c5657c79f
canonical_url
https://medium.com/gwneud-pethau-gwell/sut-mae-cymorth-ymreolaethol-yn-edrych-bc6c5657c79f
author_url
https://medium.com/@dyfrigwilliams
status
ok
fetched_at
2026-07-29 07:39:48