Sut yr uffern dy chi’n barnu arloesi?
Eleni roeddwn i’n ddigon ffodus i gael gwahoddiad i farnu y categori Dull Eithriadol o Arloesi o Wobrau y Sefydliad Tai Siartredig. Rwy'n…
Sut yr uffern dy chi’n barnu arloesi?
Eleni roeddwn i’n ddigon ffodus i gael gwahoddiad i farnu y categori Dull Eithriadol o Arloesi o Wobrau y Sefydliad Tai Siartredig. Rwy'n gweithio i sefydliad partner ym mhorth ar-lein Arfer Da Cymru, a gafodd ei ddisgrifio i mi fel "Compare the Meerkat ar gyfer arfer da yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymreig." Mae'n brosiect gwych i weithio arno, ac mae'n golygu fy mod i’n cael cyfle i weld lot o brosiectau gwych sy'n darparu gwasanaethau arbennig. Roedd beirniadu’r gwobrau yn rhoi cyfle i mi feddwl am sut rwy’n gwerthuso arloesi a beth mae'n ei olygu’n ymarferol.
Nid ydym yn argymell dull “un maint i bawb” yn fy swydd bob dydd achos ni’n byw ac yn gweithio mewn amgylcheddau cymhleth. Gall fod prosiect yn cael canlyniadau gwych yn ardal trefol o Gaerdydd, ond ni allwn rhoi’r prosiect ar waith yn yr union yr un modd yng nghefn gwlad Sir Gar (y baradwys lle cefais fy magu). Mae Chris Bolton wedi ysgrifennu blogbost gret ar Fframwaith Cynefin Dave Snowden. Mae’r blog yn hawdd i’w ddilyn ac mae’n amlinellu’n glir pam dylai ni addasu ein dulliau, yn hytrach na mabwysiadu yn union beth sy'n gweithio mewn amgylcheddau cymhleth.
[embed]
Felly, sut yr uffern ydych chi'n barnu arloesedd? Yn ffodus i mi roedd gan Clover Rodrigues o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru llawer o brofiad o farnu gwobrau Rhagoriaeth Cymru, ac fe wnaeth hi annog fi i dorri diffiniad y geiriadur i gategorïau defnyddiol. Dyma fy nghategoriau i:
- Cyfranogi a chyd-gynhyrchu (Sut mae sefydliadau yn sicrhau bod eu gwasanaethau arloesol yn cwrdd ag anghenion defnyddwyr? Ydyn nhw’n adeiladu ar asedau’r bobl y maen nhw’n darparu gwasanaethau i, ac o bosib gyda?)
- Effaith (Ydy’r arloesi wedi gwneud gwahaniaeth? Ydy’r newid yn datblygiad yn hytrach na syniad neu prosiect newydd?)
- Cymryd risgiau sydd wedi’i rheoli'n dda (Mewn cyfnod o lymder, ni all gwasanaethau parhau i weithio yn yr un modd. Sut mae sefydliadau yn rheoli'r risgiau sy'n dod gyda dull gweithredu newydd?)
- Cydweithio (Ydy sefydliadau yn gweithio ar draws eu ffiniau traddodiadol i ddarparu gwasanaethau gwell?)
- Ymagwedd sefydliad cyfan (Ydy’r gwaith arloesi yn digwydd tu hwnt i un tîm arloesol? A yw’r arloesi yn digwydd o fewn silo yn y sefydliad?)
- Dysgu (Sut mae sefydliadau yn dysgu o eraill? A sut mae nhw’n rhannu eu dysgu o’u gwaith eu hunain?)
Hefyd, fe wnes i edrych ar y brosiectau o fewn y gyd-destun a'r profiad o weithio yng Nghymru. O Archwilydd Cyffredinol sy'n annog cymryd risgiau a reolir yn dda a dysgu o fethiant, i'r Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n mynnu bod gwasanaethau cyhoeddus yn darparu eu gwasanaethau gyda golwg ar gynaliadwyedd a’r tymor hir.
[embed]
Yn fy swydd bob dydd rydw i wedi dod ar draws gwaith gwych sy'n wirioneddol o fudd i'r bobl maen nhw’n gweithio gyda. O Mewn Un Lle, sy'n arbed £1.7 miliwn y flwyddyn i’r GIG drwy helpu cleifion i fyw'n annibynnol, i Brosiect Goleudy Tai Taf, sy'n rhoi cefnogaeth i denantiaid yng Nghasnewydd i’w galluogi nhw i gynnal eu tenantiaethau. Roedd hwn yn gyfle i ddysgu mwy am brosiectau o bob cwr o'r DU.
Roedd y broses o feirniadu yn wych - cefais cyfle i ddysgu o fy nghyd-feirniaid am eu dulliau (ac yn achos David Done, i ddysgu am sut mae RHP yn ymgysylltu â’u staff), a hefyd cyfle i glywed o ymgeiswyr am sut maen nhw’n darparu gwasanaethau arloesol. Mae'n werth cadw llygad ar ganlyniadau'r gwobrau ar ol seremoni ar ddiwedd y mis. Efallai mae’r gwobrau yn ffocysu ar tai, ond mae cymaint o ddysgu yn y prosiectau ar gyfer unrhyw sector. Mae gennym y cyfle i ddysgu o’r brosiectau arloesol sy'n cael eu harddangos, a gallwn ni hefyd edrych i weld os oes yna cyfleoedd pellach i fudiadau (a defnyddwyr gwasanaeth) i weithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau sy'n addas at eu dibenion yn yr ugeinfed ganrif ar hugain.
메타데이터
- post_id
- d3ec940e4da2
- slug
- sut-yr-uffern-dy-chi-n-barnu-arloesi-d3ec940e4da2
- url
- https://medium.com/gwneud-pethau-gwell/sut-yr-uffern-dy-chi-n-barnu-arloesi-d3ec940e4da2
- canonical_url
- https://medium.com/gwneud-pethau-gwell/sut-yr-uffern-dy-chi-n-barnu-arloesi-d3ec940e4da2
- author_url
- https://medium.com/@dyfrigwilliams
- status
- ok
- fetched_at
- 2026-09-03 18:44:25