← Back to list

#3 — Casglwch data nid casgliadau

Pam, pan gyflwynir gyda’r un data, y mae dau unigolyn gwahanol yn aml yn dod i gasgliadau gwahanol am yr hyn a ddywedwyd mewn gwirionedd?

Joseph Badman in Basis · 2021-03-25 15:09 · 0 claps · 2.1 min read
#cymraeg #hwyluso #gwaith
Open on Medium ↗

#3 — Casglwch data nid casgliadau

Pam, pan gyflwynir gyda’r un data, y mae dau unigolyn gwahanol yn aml yn dod i gasgliadau gwahanol am yr hyn a ddywedwyd mewn gwirionedd?

Gadewch i ni ddefnyddio’r enghraifft syml hon i archwilio’r cwestiwn yma.

Mae arweinydd yn cwrdd â’i thîm: “Rwy’n meddwl am wneud newid ond rwyf am gael eich mewnbwn yn gyntaf”.

Pan ry’ ni’n clywed y neges hon rydym yn rhedeg yn gyflym i fyny beth mae Chris Argyris wedi cyfeirio ato fel ‘yr ysgol gasgliad’ (‘the ladder of inference’). Rydyn ni’n dewis rhywfaint o ddata o’r neges, yn ei ddehongli, ac yn dod i gasgliad. Wrth i ni symud i fyny’r grisiau rydym yn gwneud cyfres o dybiaethau sy’n cael eu siapio gan brofiadau yn y gorffennol. Er bod dau berson gwahanol yn cael yr un datganiad, mae eu rhagdybiaethau’n dylanwadu ar y data maen nhw yn ei dewis.

Yn y senario yma, gallai’r data mae person A yn dewis fod yn: “Rwy’n ystyried gwneud newid”. Pe bai gan person A brofiad yn y gorffennol o arweinwyr yn newid cyfeiriad yn unochrog, efallai fyddent yn casglu fod yr arweinydd yma yn mynd i wneud yr un peth a dod i’r casgliad eu bod wedi gwneud eu meddwl yn barod ac ei bod yn annirnadwy.

I’r gwrthwyneb, gallai’r data a ddewisir gan person B o’r un datganiad fod: “ond rydw i eisiau eich mewnbwn chi yn gyntaf.” Ar ôl cael profiad blaenorol o arweinwyr yn annog cyfranogiad mewn gwneud penderfyniadau, mae person B yn dehongli’r data ac yn dod i’r casgliad bod yr arweinydd yn credu mewn gwneud penderfyniadau ar y cyd ac yn bwriadu gwneud yr un peth.

Pam mae hyn yn bwysig?

Fel hywluswyr, rydym yn aml mewn sefyllfa o orfod crynhoi myfyrdodau, mewnbynnau a syniadau pobl yn gyflym. Fe wnewn ni alw hwn yn data. Yn y gweithdai rwy’n rhedeg mae hwn yn rhan hanfodol o’r broses. Mae edrych yn ôl ar y data hwn yn galluogi cyfranogwyr i nodi themâu ac i ymgyfarwyddo â’r heriau gwirioneddol y mae angen iddynt fynd i’r afael â.

Mae’r mathau yma o weithdai yn symud yn gyflym ac rwyf wedi darganfod, os nad wyf yn ofalus, y gallaf syrthio i’r fagl o ddal fy nghasgliadau o’r hyn a ddywedwyd yn hytrach na’r data a rannwyd mewn gwirionedd. Gan ein bod yn symud yn gyflym, mae’n bosib fod y gwallau posibl hyn yn cael eu anwybyddu.

Yng nghyd-destun hwyluso, mae hyn yn broblem. Trwy gofnodi ein casgliadau personol yn hytrach na’r data a gyflwynwyd i ni, gallwn achosi o leiaf dau problem o bwys. Pan mae’n dod i arolygu’r data fel grwp, efallai na fyddant yn ei gydnabod fel adlewyrchiad cywir o’r hyn a rannwyd. Felly, fydd y broses hyd at y pwynt yma wedi methu. Yn waeth fodd bynnag, fyddai pe bai’r wybodaeth a gasglwyd yn creu’r darlun anghywir o ddealltwriaeth pobl o’r her dan sylw. Yn y senario yma, yn y pen draw gallai’r grwp fuddsoddi eu ymdrechion i ddatrys y broblem anghywir.

Fel hwylusudd, mae bod yn ymwybodol o’r ffyrdd y mae ein meddyliau’n prosesu’r data a rennir yn defnyddiol. Ond yn y dyfodol, os byddwch chi’n cael eich hun mewn sefyllfa lle rydych chi’n teimlo eich bod chi’n neidio i gasgliadau, cofiwch ddringo i lawr eich ysgol a dal y data.


메타데이터
post_id
d77435dcb059
slug
3-casglwch-data-nid-casgliadau-d77435dcb059
url
https://medium.com/basischangingthechange/3-casglwch-data-nid-casgliadau-d77435dcb059
canonical_url
https://medium.com/basischangingthechange/3-casglwch-data-nid-casgliadau-d77435dcb059
author_url
https://medium.com/@dyn-drwg
status
ok
fetched_at
2026-07-28 10:24:52