Beth ddysgais am Systemau Dysgu Dynol
Mae gwasanaethau cyhoeddus wedi torri, ond dyw gweision cyhoeddus ddim
Beth ddysgais am Systemau Dysgu Dynol
Sgrifennais gwpl o flogbostau ar elfennau o Systemau Dysgu Dynol yn 2019 — un ar beryglon Rheolaeth Gyhoeddus Newydd, ac un arall ar atebolrwydd sy’n addas i’w bwrpas. Roedd e’n grêt i gael y cyfle i ddysgu mwy am Systemau Dysgu Dynol yn Newcastle. Roedd y diwrnod yn llawn dop o linellau dyfynadwy. Dyma ychydig ohonynt …
[embed]Mae fe hefyd yn werth gwylio’r gweminar yma gan Toby Lowe
“Mae gweithio ar sail canlyniadau’n gwneud inni fesur, rheoli, a gwneud pobl yn atebol yn y ffordd anghywir”
Siaradodd Toby Lowe amdano sut mai systemau cyfan, nid brosiectau unigol sy’n gyfrifol am ganlyniadau. Mae’n amhosib gwybod effaith ffrwd gwaith unigol. Mae’n llawer gwell i chwilio am nodweddion sy’n dod i’r amlwg o fewn system gymhleth.
Mae canlyniadau’n rhoi cymhelliannau tu allan i fudd y system i bobl ac mae’n annog pobl i chwarae’r system. Dyma pam mae’n amhosib defnyddio’r ffigyrau yma ar gyfer gwelliant, achos dydyn nhw ddim yn dangos beth sy’n digwydd mewn gwirionedd. Mae hyn hefyd yn meddwl bod y ffigyrau yn dda i ddim o ran atebolrwydd. Mae’n well i ddefnyddio nodweddion sy’n dod i’r amlwg gan fod beth sy’n cael ei weld fel nodwedd “da” yn newid yn gyson — mae gwasanaeth cyhoeddus wedi’i deilwra’n ddiofyn.
“Dyw’r marchfilwyr ddim yn dod”
Mae’r cymhlethdod yma’n cyd-fynd yn berffaith â beth ddywedodd Brendan Hill am or-arbenigedd. Soniodd am y bylchau yn y model darparu cyfredol, er enghraifft does gennym ddim digon o feddygon teulu. A all rolau cyffredinol llenwi’r bylchau yma? Ac a all y rolau yma ein helpu ni i ddelio â’r materion cymhleth yma yn fwy effeithiol?
“Mae anfantais yn broblem gymhleth. Rydyn ni’n gwybod hyn yn reddfol”
Rhannodd Toby waith Lankelly Chase ar Ymddygiadau System. Mae’r gwaith yma’n ddefnyddiol wrth i ni geisio deall sut mae ymddygiadau craidd da yn edrych. Rhannodd Toby gwaith Sefydliad y Llywodraeth ar Stiwardiaeth System hefyd, sy’n cyd-fynd yn dda gyda gwaith Lankelly Chase ac sy’n awgrymu bod angen i ni symud i ffwrdd o ddull rheoli traddodiadol i atebolrwydd 360 gradd.

Roedd Cathy Stancer yn onest iawn am waith Lankelly Chase. Sylweddolodd y mudiad bod ganddyn nhw ddim rheolaeth dros eu cenhadaeth, er gwaethaf y rhyddid a’r adnoddau sydd ganddynt fel corff cyllido. Maen nhw bellach yn meddwl amdano sut y gallan nhw weithio’n fwy effeithiol ym mysg cymhlethdod, gan gynnwys sut y gallant greu’r amodau cywir fel bod newid cadarnhaol yn gallu dod i’r amlwg. Maent yn defnyddio egwyddorion i gefnogi system iach, fel y gallan nhw adael tir cadarn ond anghynhyrchiol, a symud i le blêr.
“Mae gwasanaethau cyhoeddus wedi torri, ond dyw gweision cyhoeddus ddim”
Mae dyfyniad Mark Smith yn cyd-fynd â dyfyniad arbennig Deming (“Systemau drwg, nid pobl ddrwg”). Dywedodd Mark hefyd “Does gennym ddim problem sgiliau, mae gennym broblem ddylunio ac arwain.” Defnyddiodd enghraifft ble methodd dynes hŷn ag ymgysylltu â gwasanaeth, felly cafodd ei adael ar ei phen ei hun. Yn yr achos yma, fe wnaeth methiant i ymgysylltu troi’n gosb. Ond trwy fod yn hael â’u hamser a’u hymdrechion, fe wnaethant adeiladu ymddiriedaeth trwy eu gweithredoedd (roedd pob darn o gymorth yn helpu). Siaradodd Mark am ffordd o weithio’n wahanol, ble byddai sefydliadau’n tynnu pobl atom, yn lle gwthio nhw i ffwrdd.
“Dylai mesurau eich helpu chi i ddysgu a gwella, ond dylai dysgu a gwella ddim dod o fesurau yn unig”
Fe wnes i fynychu sesiwn Mark ar fesurau hefyd. Os yw mesurau’n deillio o bwrpas maen nhw’n gallu fod o gymorth. Ond os yw pwrpas yn deillio o’r mesur, yna rydym yn gwneud gwaith camweithredol. Mae’r diagram yma o flogbost sgwennais i ar gyfer Good Practice WAO yn ddefnyddiol.

Dylai mesurau a dull ddeillio o bwrpas
Roedd gan Mark siwd gymaint o gyngor da — fe wnaeth ein rhybuddio ni rhag defnyddio mesurau a rhifau ym modd cyfnewidiol, ac i feddwl amdano sut y gallem ddefnyddio data meintiol. Siaradodd hefyd am sut y gall yr absenoldeb o fesurau da greu gwactod ble mae rhai drwg yn camu mewn. Roeddwn i’n rili hoffi’r syniad o gynnal ymarfer “Rhoi’r gorau ac amnewid” fel ffordd o wella mesurau.
“Mae newid eich dull yn teimlo fel ailadeiladu llong wrth ei hwylio”
Siaradodd Gary Wallace a John Hamblin am sut roedd eu gwaith yng Nghynghrair Aberplym wedi newid, er bod nhw’n parhau i fwydo mesurau traddodiadol i’r llywodraeth. Maen nhw’n defnyddio’r mesurau yma fel mesurau dysgu yn lle mesurau atebolrwydd. Maen nhw’n defnyddio ymholiad gwerthfawrogol ac ymchwil ansoddol o gyfweliadau i adeiladu empathi rhwng staff a’r bobl sy’n derbyn gwasanaethau. Dywedon nhw fod “y gwasanaeth presennol yn creu dyled, sy’n cael effaith gyrydol ar hunan-barch yr unigolyn.” Maen nhw’n ceisio creu naratif i ysgogi gweithredu yn lle.
Beth yw rôl tystiolaeth os nad oes un ffordd o wneud pethau?
Roedd rhaid i mi fynychu’r gweithdy hwn gan fod gwaith Research in Practice yn seiliedig ar fodel Ymarfer sydd wedi’i seilio ar Dystiolaeth. Mae’r model yma’n gweithio trwy ddod ag ymchwil, gwybodaeth o ymarfer a phrofiad byw ynghyd, ac felly mae’n rhoi’r mudiad mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â chymhlethdod.
Siaradom amdano sut y gellir rhannu tystiolaeth, a sut rydym yn cynhyrchu’r amser a’r lle i wneud hyn. Mae dysgu’n cael ei weld fel rhywbeth sy’n neis i’w wneud yn y system gyfredol — “Os ydych yn cael eich mesur yn erbyn y gwneud, mae’n anodd cael amser ar gyfer dysgu.”
Siaradom am yr angen i bobl brofi newid a pham ei fod yn angenrheidiol. Fe wnaethon ni drafod rôl Setiau Dysgu Gweithredol ac Ymchwil Weithredol, a wnes i hefyd meddwl am rôl dysgu normadol. Mae’r rhain yn caniatáu i bobl i gymryd perchnogaeth o’r newid, y dysgu a’r ddealltwriaeth o fewn y system. Rwy’n caru’r dyfyniad yma gan gyfranogwr yn Ymchwiliad Lle Gateshead — “yn lle creu gofodau dysgu, y dylem greu gofodau gweithredu fel bod pobl rheng flaen yn gallu gwneud cynlluniau pendant amdano beth y gallant wneud yn wahanol.”
Mae’r gwaith yma’n gyffrous. Ar y foment rwy’n meddwl amdano sut y gellir profi’r damcaniaethau yma a sut y gallwn eu rhoi nhw ar waith. Mae dysgu yn rhywbeth sy’n bwysig i mi, ac rydw i wedi gwneud tipyn o waith ynghylch meddwl systemau hefyd. Ac yn bennaf, mae gen i ddiddordeb gweld sut y gall hyn fod o fudd i bobl. Rwy’n edrych ymlaen at fynd i’r afael â Systemau Dysgu Dynol yn 2020.
메타데이터
- post_id
- fc85e89b5889
- slug
- beth-ddysgais-am-systemau-dysgu-dynol-fc85e89b5889
- url
- https://medium.com/gwneud-pethau-gwell/beth-ddysgais-am-systemau-dysgu-dynol-fc85e89b5889
- canonical_url
- https://medium.com/gwneud-pethau-gwell/beth-ddysgais-am-systemau-dysgu-dynol-fc85e89b5889
- author_url
- https://medium.com/@dyfrigwilliams
- status
- ok
- fetched_at
- 2026-07-29 08:09:57